Comedi, Miwsic a Phêl-droed / Comedy, Music and Football
Mae tywydd gwisgo het, sgarff a menig wedi cyrraedd, ac mae’n criw ni wedi gorfod lapio’n gynnes iawn i drafaelio i Ogledd Cymru i ffilmio Gala Comedi S4C yn Theatr Fach, Dolgellau. Mae’r noson yng nghwmni rhai o ddigrifwyr mwyaf cyffrous y byd stand-yp Cymraeg! Gan gynnwys Dan Thomas, Esyllt Sears, Steffan Alun, Beth Jones, Priya Hall, Eleri Morgan a llawer mwy. Swnio fel noson dda i ni!
Os na welsoch chi ar ein gwefannau cymdeithasol, rydym ni’n falch iawn o gyhoeddi bod fideo cerdd newydd a wnaethom ni cynhyrchu, cyfarwyddo, ffilmio a golygu wedi cael ei ryddhau! Cafodd ‘Roadman’ gan Codewalkers ei ryddhau prynhawn dydd Iau ac mae’r fideo ar gael i’w wylio nawr. Cafodd ein cyfarwyddwr, Josh, ac ein dyn camera, Jonny, gymaint o hwyl yn gweithio ar y fideo yma, mi fysa nhw wrth eu bodd cael gweithio gyda’r band eto cyn bo hir. Er mwyn gwylio’r fideo cliciwch ar y linc ganlynol -
https://www.youtube.com/watch?v=rjC-nGYWU4Y&feature=youtu.be&fbclid=IwAR0W8kmH-bPPqs05s3-GDi6FBPzYW8su7d9Arrry9R08nsd6xKMlIFLl2yc
Mae Dave ein dyn camera wedi bod yn brysur yr wythnos hon yn ffilmio ar gyfer rhaglen CIC yn Nhrefforest ac yng Nghasnewydd gyda Thîm Pêl-droed Merched Cymru. Fe fuon nhw’n cyfweld ag Angharad James, Tash Harding, Helen Ward a Rhiannon Roberts, cyn eu gêm Euro Qualifier yn erbyn Belarws ar yr 8fed o Hydref. Pob lwc ferched! Mae CIC yn cael ei ddarlledu ar Stwnsh bob nos Wener am 17:40 ac yn cael ei ail ddarlledu bob bore Sadwrn am 09:40.
//
Sweater weather has arrived, and our team has wrapped up tightly to travel up North to film S4C’s Comedy Gala in Theatr Fach, Dolgellau. The Gala is hosted by some of Wales’ most exciting stand-up comedians! These include Dan Thomas, Esyllt Sears, Steffan Alun, Beth Jones, Priya Hall, Eleri Morgan a llawer mwy. Sounds like a great night to us!
If you didn’t see our social media posts, we’re very excited and proud to announce that a new music video that we filmed, directed, edited and casted has been released! ‘Roadman’ by Codewalkers was released on Thursday afternoon and the video is available to watch now. Our cameraman, Jonny, and director, Josh, had so much fun working on this shoot, and would be delighted to work with the band again in the future. To watch the music video click the following link -
https://www.youtube.com/watch?v=rjC-nGYWU4Y&feature=youtu.be&fbclid=IwAR0W8kmH-bPPqs05s3-GDi6FBPzYW8su7d9Arrry9R08nsd6xKMlIFLl2yc
Our other cameraman Dave has been busy this week filming for CIC in Treforest and Newport with Wales’ Womens’ Football Team. They interviewed Angharad James, Tash Harding, Helen Ward a Rhiannon Roberts before their Euro Qualifying game against Belarus on the 8th of October. Good luck girls! CIC is broadcasted every Friday night on Stwnsh at 17:40 and repeated every Saturday morning at 09:40.