top of page

O Wrecsam i Frankfurt / From Wrexham to Frankfurt

Yr wythnos yma mae’r criw wedi teithio ledled Cymru yn ogystal â’r Almaen!

Fe aeth Osian a Jonny i Rhuthun, Wrecsam, a Bowstreet yr wythnos hon er mwyn ffilmio gyda CIC. Yn ogystal â hyn fe aethon nhw i ffilmio tîm Pêl-droed Genedlaethol Cymru yn ymarfer cyn eu gem fawr yn erbyn Slovakia dydd Iau yn ogystal â’u gem dydd Sul nesaf yn erbyn Croatia. Cafwyd llawer o hwyl yn ffilmio gyda Owain Tudur Jones yn Wrecsam, Clwb Pêl-droed Rhuthun, a Clwb Pêl-droed Bowstreet. Fe fydd rhain yn cael eu darlledu yn y flwyddyn newydd, ond peidiwch ac anghofio bod CIC yn cael ei ddarlledu pob dydd Gwener am 17:40 ar S4C.

Cafodd Dave ein dyn camera y cyfle gwych i deithio i Frankfurt yn yr Almaen yr wythnos hon. Roedd yn ffilmio tridiau o uwchgynhadledd bancio CIO, oedd yn gyfle i swyddogion gweithredol ddod at ei gilydd er mwyn mynd i’r afael ar rhai o heriau a chyfleoedd allweddol sydd gan y diwylliant i’w gynnig.

Y penwythnos yma mae Gŵyl Dylunio Caerdydd yn cael ei gynnal! Mae’r ŵyl eisiau herio ac ehangu diffiniad dylunio yng Nghaerdydd, yn ogystal â dathlu doniau dylunio’r ddinas wrth arbrofi a chydweithio â dylunwyr o bob math. Mae Jonny ein dyn camera yn edrych ymlaen at fynychu rhai o’r digwyddiadau a chyfarfod pobl newydd yn y maes. Er mwyn dysgu mwy am yr ŵyl a darganfod beth sydd ymlaen cliciwch y linc yma - https://cardiffdesignfestival.com/cy/hafan/

Wrth sôn am Jonny, mewn pythefnos fe fydd Jonny yn rhedeg Marathon Eryri. Fe fydd yn rhedeg lap cyfan o amgylch mynydd uchaf Cymru, Y Wyddfa, gan godi arian tuag at elusen Shelter. Er mwyn noddi Jonny, cliciwch ar y linc ganlynol - https://www.justgiving.com/fundraising/jonny-snowdonia-marathon

//

This week our crew travelled all over Wales and Germany!

Osian and Jonny travelled to Ruthin, Wrexham and Bowstreet this week to film with CIC. They filmed the Wales International Football Team’s training before their big game against Slovakia on Thursday and Croatia on Sunday. They had a lot of fun filming with Owain Tudur Jones in Wrexham, Ruthin’s Football team and Bowstreet’s women's Football Team. These items will be broadcast in the new year, but don’t forget that CIC is on every Friday at 17:40 on S4C.

Our cameraman Dave had a great opportunity to travel to Frankfurt in Germany this week. He was filming three days of a CIO banking summit, an opportunity for executives from across the Global Banking sector who come together to address some of the key challenges and opportunities within the industry.

The Cardiff Design Festival is on this weekend! The festival aims to challenge and broaden the definition of design in Cardiff, and celebrate it’s wealth of design talent whilst experimenting and collaborating with designers of all kinds. Our cameraman Jonny is looking forward to attending some of the events they offer and meeting new people from this sector. To find out more about the festival and what’s on, click on this link - https://cardiffdesignfestival.com/

Speaking of Jonny, in two weeks time he will be running the Snowdonia Marathon. He will be running a full lap around the base of Wales’ highest mountain, and raising money for Shelter Cymru. To donate, please click the following link - https://www.justgiving.com/fundraising/jonny-snowdonia-marathon


Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square
bottom of page