top of page

Another busy week / Wythnos brysur arall

Mae’r wythnos yma wedi bod yn un prysur iawn i griw Copa. Gyda ein criw saethu i gyd yn gweithio ar brosiectau gwahanol. Mae Jonny wedi bod yn gweithio gyda CIC yr wythnos hon gan drafaelio i Leicester er mwyn ffilmio gyda Danny Ward, gôl-geidwad i dîm Leicester a thîm rhyngwladol Cymru, ar ddydd Mercher. Yna yn hedfan i Glasgow er mwyn ffilmio gyda Andy King, chwaraewr i Gymru a Rangers F.C. Fe fydd y clipiau yma ar CIC yn y flwyddyn newydd!

Mae Dave wedi bod yn gweithio ar gyfer tudalen Tiny Happy People ar BBC. Gwefan sy’n ceisio datblygu sgiliau iaith a chyfathrebu eich plant er mwyn cael y dechrau gorau i fywyd. Maen nhw’n creu fideos sydd llawn ‘tips’ er mwyn helpu rhieni gyda datblygiad eu plant.

Dim ond wythnos i fynd tan mae Jonny yn rhedeg Marathon Eryri. Mae’r marathon yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn y 26ain o Fedi ac yn cychwyn o Lanberis. Mae Jonny wedi bod yn gweithio yn galed iawn rhwng ffilmio ar gyfer y marathon ac mi fysai’n gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad tuag at elusen Shelter. Er mwyn cyfrannu cliciwch y linc ganlynol -

https://www.justgiving.com/fundraising/jonny-snowdonia-marathon

Ar nos Fawrth fe wnaeth Jonny ein dyn camera, fynychu ‘Oceans Film Festival’. Gŵyl sy’n sgrinio detholiad unigryw o ffilmiau o wahanol arddull sy’n ymdrin â phynciau fel amgylchedd cefnforol, diwylliannau arfordirol, anifeiliaid cefnforol, chwaraeon sy’n gysylltiedig â’r cefnfor a phobl sy’n hoff o’r môr. Roedd yn brofiad gwych er mwyn cael dysgu am arddulliau newydd o ffilmio, yn ogystal â chyfarfod pobl newydd gyda’r un angerdd a ni tuag at ffilmio. Er mwyn dysgu mwy am yr ŵyl (sydd yn dal i deithio o amgylch y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd!) cliciwch y linc yma -

https://www.oceanfilmfestival.co.uk/

//

This week has been a busy one for the Copa crew, with all of our camera men out shooting on different projects! Jonny has been working with CIC this week, travelling to Leicester to film with Danny Ward, goal-keeper for Leicester and Wales’ international football team. Then flying to Glasgow to film with Andy King, football player for Wales and Rangers F.C. These clips will be on CIC in the new year!

Dave has been working on Tiny Happy People for the BBC this week. Tiny Happy People is a website designed to develop children’s language and communication skills, so they get the best start in life. They produce videos and ‘tips’ to help parents help their child’s development.

Only one week to go until Jonny runs the Snowdonia Marathon. It’s held on the 26th of October, starting from Llanberis. Jonny’s been working very hard between filming to prepare for this race, and would appreciate any donation given towards Shelter Cymru charity. To donate please click the following link - https://www.justgiving.com/fundraising/jonny-snowdonia-marathon

On Tuesday night Jonny attended the Oceans Film Festival, whose vision is to inspire you to explore, respect, enjoy and protect our oceans. The festival includes a unique selection of films of varying lengths and styles covering topics such as the oceanic environment, marine creatures, ocean related sports, coastal cultures and ocean lovers. The festival was a great opportunity to learn new filming styles and meet new people with the same passion as us - filming. To learn more about the festival (that’s still currently touring the UK) click this link -

https://www.oceanfilmfestival.co.uk/


Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square
bottom of page