Exciting News! / Newyddion Cyffrous
Newyddion mawr!! Mae Dave, ein dyn camera, wedi pasio ei arholiad drôn! Ar ôl wythnosau o waith caled mae Dave nawr yn beilot drôn ardystiedig. Roedd yn lwcus iawn bod yr arholiad wedi digwydd oherwydd tywydd garw ar y diwrnod, ond fe fuodd yn lwcus i gael sbel sych a gallu parhau gyda’r arholiad! Da iawn chdi Dave!
Mae’r penwythnos wedi cyrraedd! Dydd Sadwrn yma mae Jonny yn rhedeg Marathon Eryri. Hoffwn ni fel criw ddymuno pob lwc enfawr iddo ar redeg y 26 milltir o amgylch yr Wyddfa, a’i longyfarch ar godi gymaint o arian tuag at elusen Shelter Cymru. Mae dal cyfle i noddi Jonny ar y linc yma - https://www.justgiving.com/fundraising/jonny-snowdonia-marathon
Yr wythnos hon cafodd Josh, ein cyfarwyddwr creadigol a Gwenno, ein cynorthwyydd cynhyrchu doriad bach o’r swyddfa, wrth fynd ar shoot gorfforaethol. Fe aeth Josh a Gwenno ynghyd a’n dyn camera ni Jonny, i ysgol Eastern High er mwyn cynhyrchu hysbyseb ar gyfer Qualifications Wales. Fe fydd yr hysbyseb i’w weld ar wefannau cymdeithasol diwedd mis Tachwedd.
Lwcus nad ydy Osian a Dave yn cael eu dychryn yn hawdd, neu bysa nhw heb fynd i ffilmio i’r Alban yr wythnos yma! Roedd y ddau yn ffilmio cyfres newydd Project Z yr wythnos hon. Rhaglen ‘zombie’ i blant enillodd BAFTA llynedd a RTS eleni. Rydym ni’n falch iawn ein bod yn cael y pleser o weithio ar y gyfres eto eleni.
//
Big news!! Dave, our cameraman, has passed his drone test! After weeks of hard work Dave is now a certified drone pilot. The weather was so terrible on the day of the exam, we were worried it wouldn’t happen, but luckily there was a dry spell and the exam continued! Well done Dave!
The weekend has arrived! This Saturday Jonny is running the Snowdonia Marathon. We would like to wish him a massive good luck running 26 miles around Snowdon, and congratulate him for raising so much money for Shelter Cymru. There’s still a chance to donate on the following link - https://www.justgiving.com/fundraising/jonny-snowdonia-marathon
This week Josh, our Creative Producer, and Gwenno, our Production Assistant, got a break from the office to go on a corporate shoot. Josh, Gwenno and our cameraman Jonny went to Eastern High School this week to produce an advert for Qualifications Wales. The advert will be on social media by the end of November.
It’s lucky that Osian and Dave don’t get scared easily, or they wouldn’t have been able to go to this week’s shoot in Scotland! Osian and Dave were filming the new series of Project Z this week, a zombie-filled children’s programme that won a BAFTA last year and a RTS this year. We’re so happy to have the pleasure of working on this series again this year.