A packed fortnight / Pythefnos brysur
Mae’r pythefnos dwythaf wedi bod yn hollol brysur i holl griw Copa, gyda amryw i brosiect gwahanol ymlaen! Mae ochr gorfforaethol Copa wedi bod yn hynod brysur yn ddiweddar. Cafodd y fideos wnaethom ni gynhyrchu, cyfarwyddo, ffilmio a golygu i Cymwysterau Cymru eu rhyddhau wythnos dwythaf ar eu gwefan ac ar eu gwefannau cymdeithasol. Ac ers hynny rydym ni wedi dechrau gweithio ar mwy o fideos yn ymwneud â’r cwricwlwm newydd i ysgolion gan y Llywodraeth. Rydym ni yng nghanol y broses o ôl-gynhyrchu y fideos yma ar y funud ac yn gobeithio y bydd y fideos yma allan yn y flwyddyn newydd!
Mae ffilmio wedi parhau ar gyfer cyfres diweddaraf Project Z, gyda lleoliadau ffilmio yn Llundain un penwythnos ac yn Birmingham penwythnos arall. Mae Project Z yn raglen Zombies i blant ar S4C ac ITV, a enillodd RTS eleni a BAFTA flwyddyn dwythaf! Rydym wrth ein bodd ein bod yn cael y fraint o weithio ar y rhaglen eto eleni!
Yn ychwanegol mae’r criw wedi bod yn ffilmio dipyn ar gyfer cyfres newydd CIC a fydd allan yn y flwyddyn newydd. Mae’r criw wedi bod yn ffilmio amryw o eitemau yn Dyffryn Nantlle, Wrecsam a Caerdydd. Rydym yn edrych ymlaen at wylio y gyfres newydd pan fydd hi allan.
Mae Jonny wedi bod yn hynod brysur yn ddiweddar wrth ffitio ffilmio mewn rhwng y gwaith corfforaethol. Mae wedi bod yn ffilmio ar gyfres newydd o Hayley Goes… ar gyfer BBC yn ogystal a cyfres diweddaraf Rhod Gilberts Work Experience. Yn ogystal a hyn, dros y penwythnos fe aeth Jonny i Prague er mwyn mynychu seremoni wobrwyo Outdoor Film, lle enillodd wobr am ei ddogfen “Nomads”. Llongyfarchiadau, Jonny! Dyma linc er mwyn gwylio y ddogfen fuddigol - https://vimeo.com/295342125/comments
Ar nos Fercher bydd Desperate To Drive, rhaglen a ffilmwyd gan ein criw ni, ar BBC One Wales am 8yh. Mae Desperate To Drive yn rhoi cyfle i bedwar person yrru unwaith eto, sydd drwy ddamwain neu salwch wedi gorfod stopio gyrru. Mae’r rhaglen yn un hynod ysbrydoliedig ac rydym yn edrych ymlaen i wylio’r rhaglen nos Fercher, gobeithio y cewch chi gyfle hefyd!
//
All of our crew have been so busy this last fortnight, with various projects on the go! Our corporate side has been extremely busy recently. The videos that we produced, directed, filmed and edited for Qualifications Wales were released last week on their website and their social media. Since then we’ve started working on more videos regarding the new Curriculum. We’re in the middle of post-production at the moment and hope these videos will be released in the new year!
Filming has continued for the new series of Project Z, with locations in Birmingham one week and in London the next. Project Z is a Zombie-themed children’s programme on S4C and ITV which was awarded an RTS this year and a BAFTA last year! We’re so glad to be working on this series again this year!
In addition, our crew has been filming quite a bit for the new series of CIC, that will be released in the new year. The crew has been out filming various items in Dyffryn Nantlle, Wrexham and Cardiff. We’re really excited to watch the new series when it’s out.
Jonny has been especially busy lately by making time to film between corporate work. He’s been working on the new series of Hayley Goes.. for the BBC as well as the new series of Rhod Gilberts Work Experience. Also, over the weekend, Jonny travelled to Prague to attend Outdoor Film’s award ceremony, where Jonny accepted an award for his documentary Nomads. Huge congratulations Jonny! Here's a link to watch the award winning documentary - https://vimeo.com/295342125/comments
This Wednesday Desperate To Drive, filmed by our crew, is on BBC One Wales at 8 pm. Desperate To Drive gives four people the chance to get back behind the wheel, who, through illness or an accident, has been prohibited from driving. The programme is so inspirational, and we very much look forward to watching the show on Wednesday night- we hope you will too!