top of page

RTS Award / Gwobr RTS

Mae’r hogiau wedi bod yn gweithio tipyn ar Prosiect Z yr wythnos hon o amgylch Caerdydd. Ac wrth sôn am Prosiect Z, yr wythnos hon fe gafodd Prosiect Z ei enwebu am wobr RTS Cymru!! Fe roeddem ni yn ddigon ffodus i ennill yr un wobr ‘nôl yn 2018 o dan y categori rhalgen i blant. Rydym mor falch ei fod wedi ei enwebu eto eleni, rydym ni wir wrth ein boddau cael gweithio ar y rhaglen hon i Boom Cymru.

Yn ychwanegol yr wythnos hon mae Jonny a Chris wedi bod yn gweithio ar gyfres Hayley Goes. Cyfres sy’n dilyn Hayley wrth iddi geisio taclo’r heriau sydd yn wynebu ein cenhedlaeth heddiw. Er enghraifft mynd yn sobr am fis, mynd yn figan, a cheisio rhoi gorau i’w ffon am bythefnos. Mae pob pennod o’r gyfres diwethaf ar gael ar BBC iPlayer nawr.

Yn ychwanegol fe aeth Josh a Jonny i Llandysul i ffilmio fideo ar gyfer Hybu Cig Cymru yr wythnos hon ar fferm. Cadwch lygaid allan ar wefannau cymdeithasol am y fideo yn fuan!

//

The boys have been working a lot on Project Z this week around Cardiff. And speaking of Project Z, this week Project Z was nominated for an RTS Wales award!! We were lucky enough to win the same award back in 2018 under the Children’s programme category. We’re so proud to be nominated again this year, we truly enjoy working on this programme for Boom Cymru.

Also this week Jonny and Chris have been working on the Hayley Goes series. A series that follows Hayley trying to tackle the challenges facing our generation today. For example, going sober for a month, going vegan, and giving up her phone for 2 weeks. Every episode of the latest series available on BBC iPlayer now.

On Thursday Josh and Jonny travelled to Llandysul to film a video for Meat Promotion Wales. Keep an eye out for the video on social media soon!


Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square
bottom of page