Busy Times/Amser Prysur
Mae’r pythefnos diwethaf wedi bod yn brysur iawn i ni fel criw, gyda’r hogiau yn ffilmio ar amryw o raglenni. Mae Osian wedi bod yn ffilmio ar gyfer cyfres Bois y Rhondda ar S4C dros yr wythnosau diwethaf. Cyfres newydd gan gwmni Rondo sy’n dilyn criw o hogiau yng nghwm y Rhondda yn Ne Cymru o ddydd i ddydd. Cadwch lygaid allan am y gyfres newydd ar S4C eleni!
Yn ychwanegol mae Chris wedi bod yn ffilmio ar gyfer Hayley Goes… yr wythnos diwethaf yma. Gan ffilmio yn Coventry, Abertawe a Chaerdydd. Mae’r gyfres yn dilyn Hayley wrth iddi geisio taclo’r heriau sy’n wynebu ein cenhedlaeth ni heddiw. Er enghraifft mae hi’n ceisio mynd yn sobor am 4 wythnos, ac yn ceisio mynd heb ei ffon am bythefnos. Mae cyfres o Hayley Goes… ar gael i’w wylio yma.
Dros y penwythnos fe fuodd Copa yn ffilmio gig comedi ar gyfer S4C, gyda chomediwyr o Gymru yn cymryd rhan. Ac ar y funud mae Jonny yng nghanol y broses o olygu’r rhaglen. Mi fydd y rhaglen ar S4C ymhellach ymlaen y flwyddyn yma.
Ar ddechrau'r wythnos roedd Osian fyny yng Ngogledd Cymru yn ffilmio ac yn helpu gyda prosiect iechyd a lles celfyddydol cwmni Fran Wen, Fi Di Fi. Mae Fi Di Fi yn brosiect sy'n defnyddio’r celfyddydau i annog pobl ifanc i ddeall pwysigrwydd lles.
//
The last week has been busy for us as a crew, with the boys filming for various programmes. Osian has been filming Bois y Rhondda for S4C over the past week. Bois y Rhondda is a new series for S4C by production company Rondo that follows a crew of boys from day to day in the Rhondda Valley in South Wales. Keep an eye out for the new series on S4C this year!
Also, Chris has been filming Hayley Goes… this week. Filming in Coventry, Swansea and Cardiff. The series follows Hayley as she tackles the challenges facing our generation today. For example, she attempts to go sober for 4 weeks, and live without a phone for 2 weeks. The first series of Hayley Goes… is available to watch here.
Over the weekend Copa was filming a comedy gig for S4C, featuring many comedians from Wales. And Jonny is currently in the process of editing the programme which will be on S4C later this year.
At the beginning of the week Osian was up in North Wales filming and helping out with Fran Wen's arts and well-being scheme. Fi Di Fi uses the arts to encourage young people to understand the importance of well-being.