top of page

Welsh Language Film/TV reccomendations / Awgrymiadau Teledu/Film Cymraeg

Mae hanes teledu yng Nghymru yn mynd yn ôl degawdau ac ers sefydlu S4C yn 1982 mae teledu yng Nghymru wedi mynd o nerth i nerth. Dyma rhai enghreifftiau diweddar o raglenni teledu/ffilmiau Cymraeg os ydych chi awydd gwylio teledu yn y Gymraeg!

//

The history of Welsh language television goes back decades, and ever since establishing S4C in 1982, Welsh television has gone from strength to strength. Here’s some recent tv programmes/films in Welsh (with English subtitles) to get you started!

Anorac (2018)

Mae Anorac yn ffilm yn dathlu hanes miwsig Cymraeg yn ogystal ag edrych ymlaen at ddyfodol y sîn roc Gymraeg. Mae’r ffilm yn dilyn y cyflwynydd radio Huw Stephens wrth iddo deithio o amgylch Cymru mewn anorac melyn gan gyfweld â ffigyrau fwyaf blaenllaw'r diwydiant ers y 50 mlynedd diwethaf. Mae’n cychwyn ei daith yng Nghaerdydd ac yn gorffen yng Ngŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion gan gyfweld artistiaid megis Meic Stevens, Gruff Rhys, Georgia Ruth a Kizzy Crawford a mwy ar hyd y ffordd. Os ydych chi eisiau gweld ffilm sy’n dathlu sawl agwedd gwahanol o ddiwylliant Cymreig, yr iaith, y gerddoriaeth a’r tirwedd hyd yn oed, mae Anorac ar gael i’w wylio ar BBC iPlayer yma.

//

Anorac is a film that celebrates the history of Welsh music as well as looking forward to the future of the Welsh rock scene. It follows presenter Huw Stephens as he travels Wales, in his yellow anorak, interviewing the scene’s most prominent figures from the last 50 years. He starts his journey in Cardiff and finishes at Festival Number 6 in Portmeirion interviewing artists such as Meic Stevens, Gruff Rhys, Georgia Ruth and Kizzy Crawford along the way. If you want to watch a film that celebrates many aspects of Welsh culture, the language, the music and the landscape, Anorac is available to watch, with English subtitles, on BBC iPlayer here.

Bang (2017 - )

Mae’r gyfres ddrama hon sydd wedi ei ysbrydoli gan ddramâu scandi-noir wedi ei lleoli yn nhref Port Talbot. Mae’r gyfres gyntaf yn adrodd hanes Sam Jenkins (Jacob Ifan) a’i chwaer Gina (Catrin Stewart) sy’n heddwas, ac yn dangos sut mae diniweidrwydd Sam yn golygu bod pobl yn cymryd mantais arno. Gan fod y gyfres wedi ei leoli ym Mhort Talbot, ardal yng Nghymru sydd ddim yn nodweddiadol am y nifer o siaradwyr Cymraeg, mae’r gyfres yn ddwyieithog. Mae rhai cymeriadau yn siarad Cymraeg gyda’i gilydd a rhai yn siarad Saesneg, sydd yn portreadu yn wych sut mae’r iaith yn cael ei defnyddio mewn gwirionedd mewn rhai ardaloedd o Gymru. Mae cyfres gyntaf Bang ar gael ar S4C clic yma, gyda’r ail gyfres yn cychwyn yr wythnos hon.

//

This Scandi-noir inspired crime drama is situated in the town of Port Talbot. The series follows Sam Jenkins (Jacob Ifan) and his sister Gina (Catrin Stewart), and shows how Sam’s vulnerability leads to people taking advantage of him. Because it’s situated in Port Talbot, an area in Wales not known for its vast amount of Welsh speakers, the series is bilingual. Some characters speak Welsh, some characters speak English, and it portrays perfectly how the language is used in reality in some areas of Wales. The first series is available, with English subtitles, on S4C clic here, with the second series released this week.

Rownd a Rownd/Pobl Y Cwm

Os ydych chi’n hoff o operâu sebon mae Rownd a Rownd neu Pobl y Cwm yn ‘top tier’ operâu sebon Cymreig. Mae Rownd a Rownd wedi ei leoli yn Ynys Môn yng Ngogledd Cymru ac wedi ei dargedu tuag at bob oedran. Mae’n dilyn hynt a helynt bywyd o ddydd i ddydd yn y pentref lle mae pawb yn adnabod pawb. Mae Rownd a Rownd yn cael ei ddarlledu dwywaith yr wythnos ac ar gael i’w ddal fyny gydag ar BBC iPlayer yma.

Mae Pobol y Cwm wedi ei leoli yng Nghwmderi yn Ne Orllewin Cymru ac wedi bod yn darlledu ers 1974 gan ei wneud yr opera sebon hiraf i’w ddarlledu gan y BBC. Yn debyg i Rownd a Rownd mae’n dilyn bywyd o ddydd i ddydd yn y pentref, gyda’r dafarn Y Deri yn ganolbwynt i’r gyfres. Mae Pobol y Cwm yn cael ei ddarlledu 4 gwaith yr wythnos, o nos Lun i nos Iau, pob wythnos, ac ar gael i’w dal fyny efo ar BBC iPlayer yma.

//

If you’re a fan of soap operas, Rownd a Rownd and Pobol y Cwm are in the top tier of Welsh soap operas. Rownd a Rownd is situated in Anglesey in North Wales and is targeted towards every age. It follows the day to day life in a small town where everyone knows each other and their business. Rownd and Rownd airs twice a week and you can catch up now, with English subtitles, on BBC iPlayer here.

Pobol y Cwm is located in Cwmderi in South West Wales and has been broadcasting since 1974, making it the longest-running television soap opera from the BBC. Similar to Rownd a Rownd it follows the day to day lives in the village, with the pub Y Deri as a centrepoint for the series. Pobol y Cwm is aired 4 times a week, from Monday to Thursday, every week, and is available to catch up on, with English subtitles on BBC iPlayer here.

Priodas Pum Mil

Mae Priodas Pum Mil yn rhaglen realiti sydd yn dilyn y cyflwynwyr Emma Walford a Trystan Elis-Morris wrth iddyn nhw geisio creu'r briodas berffaith i gyplau gyda chyllideb o £5000. Mi wneith y rhaglen wneud i chi chwerthin a chrio mewn hapusrwydd, mae’n rhaglen ‘feel good’ ac yn wych os ydych chi eisiau gwylio rhywbeth ysgafn. Mae cyfres newydd o’r rhaglen allan ar y funud ar S4C ac ar gael i’w wylio ar BBC iPlayer, neu S4C Clic nawr.

//

Priodas Pum Mil is a reality programme that follows the presenters Emma Walford and Trystan Elis-Morris as they attempt to create the perfect wedding for couples with a budget of £5000. It will make you laugh and cry with happiness, it’s a real ‘feel good’ programme and is perfect if you want to watch something lighthearted. The new series is currently airing and on S4C and is available to watch, with English subtitles, on BBC iPlayer or S4C Clic now.


Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square
bottom of page