Merry Christmas! / Nadolig Llawen!
Mae’r wythnos olaf wedi cyrraedd, ac mae pawb yn edrych ymlaen at gael toriad dros y Nadolig! Ac er ei bod hi’n wythnos olaf rydym ni dal wedi cael wythnos brysur. Dros y penwythnos roedd Osian, Dave a Chris yn gweithio ar gyfres newydd Project Z yn Exmouth, de Lloegr. Hwn oedd tro cyntaf Chris yn gweithio ar Project Z ac mae’n saff i ddweud ei fod wedi cael llawer o hwyl yn ei ffilmio. Mae Project Z yn rhaglen zombies i blant ar S4C ac ITV ac wedi ennill BAFTA ac RTS. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mwy ar y rhaglen yn y flwyddyn newydd.
Yr wythnos hon mae Jonny wedi hedfan i Norwy i ffilmio mwy ar gyfer prosiect Stødig. Mae’r ddogfen yn dilyn dau bensaer sydd wedi ail-bwrpasu bâd achub mewn i gartref hunangynhaliol ac yna teithio 5000km o’r Deyrnas Unedig i Artig Norwy yn 2019. Rydym wir yn edrych ymlaen at weld y prosiect gorffenedig! I ddysgu mwy am daith Stødig cliciwch y linc yma - http://arctic-lifeboat.com/
Ar ddydd Mercher roedd Dave yn ffilmio rhaglen newydd gyda Rhod Gilbert, o’r enw Rhod Gilbert Stand Up to Infertility. Mae’r rhaglen yn ceisio codi ymwybyddiaeth am anffrwythlondeb mewn dynion. Er mwyn darllen mwy am y pwnc a beth yw’r rhesymau mae Rhod wedi penderfynu cychwyn yr ymgyrch HIMfertility cliciwch y linc yma - https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-50812516?fbclid=IwAR1IMK5-PIhwX3XI6wJjgvLdWVObIQ_tWJxatzIbc45Vrc_T5r95Bhl7Pio
Hoffwn pawb at COPA dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!🎄🎅🏻
//
The last week has arrived, and everyone’s looking forward to having a break over Christmas! Even though it’s the last week before the festivies can begin in earnest, it’s still been a busy one. Over the weekend Osian, Dave and Chris worked on the new series of Project Z in Exmouth, south England. This was the first time Chris worked on Project Z and it’s safe to say he had a lot of fun filming it. Project Z is a zombie programme for children on S4C and ITV and has won a BAFTA and RTS. We’re looking forward to working more on the programme in the new year.
This week Jonny travelled to Norway to film more on his project Stødig. The documentary follows the journey of two architects that have re-purposed a lifeboat into a self-sufficient home and then travelled 5000km from the UK to Arctic Norway in 2019. What has been filmed so far is simply stunning, we really can’t wait share the finished product with you. To learn more about Stødig’s journey click this link - http://arctic-lifeboat.com/
On Wednesday Dave was filming a new programme with Rhod Gilbert, called Rhod Gilbert Stand Up to Infertility. The show raises awareness about infertility in men. To read more about the subject and the reasons Rhod has started the HIMfertility campaign, click here - https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-50812516?fbclid=IwAR1IMK5-PIhwX3XI6wJjgvLdWVObIQ_tWJxatzIbc45Vrc_T5r95Bhl7Pio
From all of us here at COPA, have a very Merry Christmas and a Happy New Year! 🎄🎅🏻