Happy (late) New Year! // Blwyddyn Newydd Dda (hwyr)
Blwyddyn newydd dda bawb! Gobeithio eich bod chi gyd wedi cael gwyliau hyfryd. Ers dod yn ôl ar ôl y Nadolig rydym ni wedi bod yn brysur dros ben ac hyd yn oed wedi teithio Ewrop i ffilmio! Yr wythnos hon fe gafod Osian y cyfle i deithio i’r Almaen gan ymweld â’r brif ddinas Berlin a dinas Leipzig i ffilmio ar gyfer cyfres newydd o CIC. Rhaglen i blant yw CIC sydd i’w wneud â pêl-droed a rygbi ac wedi ennill BAFTA Cymru. Roedden nhw’n cyfweld gyda’r pêl-droediwr rhyngwladol Ethan Ampadu sydd yn chwarae i dim Pêl-droed Rhyngwladol Cymru ac RB Leipzig. Fe roedden nhw’n dysgu ychydig o Gymraeg iddo ac yn holi beth oedd y rheswm dros dorri ei wallt enwog. Cadwch lygaid allan am y gyfres newydd o CIC ar S4C eleni.
Nid Osian yn unig sydd wedi bod yn teithio yr wythnos hon - mae Dave wedi bod yn y Ffindir yn ffilmio yr wythnos hon. Mae wedi bod yn teithio drwy’r eira mawr felly dani’n gobeithio ei fod wedi lapio’n gynnes.
Mae Jonny wedi bod yn brysur yr wythnos hon yn parhau gyda ffilmio cyfres newydd o Rhod Gilbert’s Work Experience. Hon yw’r ail gyfres i Jonny weithio arno ac rydym yn falch iawn ein bod yn cael y pleser o weithio arno. Mae’r gyfres yn dilyn y comediwr wrth iddo dreial gwahanol swyddi am wythnos er enghraifft mae’n ceisio bod yn ‘bin man’, ffarmwr, athro, heddwas a llawer mwy!
//
Happy New Year everyone! We hope you had a wonderful holiday break. Since returning after Christmas we’ve been very busy and we’ve even travelled to Europe! This week Osian had the amazing opportunity to travel to Germany to visit the capital Berlin and the city of Leipzig to film the new series of CIC. CIC is a BAFTA Cymru award-winning children’s programme based on football and rugby. In Leipzig, they were interviewing the international footballer Ethan Ampadu, that plays for the Welsh National team and RB Leipzig. They taught him a bit of welsh and asked what was the reason for cutting his famous hair. Keep an eye out for the new series of CIC this year on S4C.
Osian isn’t the only one who’s been travelling this week - Dave been filming in Finland this week. He’s been travelling through a lot of snow so we really hope he’s packed some warm clothing!
Jonny has been busy this week filming the new series of Rhod Gilbert’s Work Experience. This is the second series for Jonny to work on and we’re very proud to have the pleasure of working on this great series. The programme follows the comedian as he attempts various jobs for a week, for example he attempts to be a bin man, farmer, teacher, policeman and much more!